Office Of The Public Guardian
Manylion
Defnyddiwch y ffurflen hon os ydych eisiau help gydar:
- Ffi o 82 am gais i gofrestru atwrneiaeth arhosol (LPA) neu atwrneiaeth barhaus (EPA).
- Ffi o 41 am ailgyflwyno cais i gofrestru LPA neu EPA.
Os ywr unigolyn a wnaeth yr LPA neur EPA (y rhoddwr) yn derbyn budd-daliadau penodol syn dibynnu ar brawf modd pan fyddwch yn gwneud cais iw chofrestru, ni fydd rhaid ichi dalu dim (gelwir hyn yn esemptiad). Maer budd-daliadau wediu rhestru yn y ffurflen.
Os yw incwm y rhoddwr cyn treth yn llai na 12,000 y flwyddyn, dim ond hanner fydd rhaid ichi dalu (gelwir hyn yn ddilead 50 y cant).
Maer ffurflen hefyd yn esbonio sut a pha bryd i dalur ffioedd.
Gwybodaeth bersonol
Mae Swyddfar Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn ymroddedig i drin eich data personol mewn ffordd gyfrifol ai gadwn ddiogel.
Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni ac maen cael ei ddiogelu yn y gyfraith gan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA).