GovWire

RWM yn croesawu lansiad ail ‘Weithgor’ Cyfleuster Gwaredu Daearegol

Radioactive Waste Management

January 14
08:30 2021

Mae Gweithgor wedi cael ei greu yn Allerdale, Cumbria, i ddechrau trafod y posibilrwydd o gynnal cyfleuster daearegol dwfn ar gyfer gwaredu gwastraff ymbelydrol mewn modd diogel.

Dawr cyhoeddiad heddiw ddau fis ar l ir gweithgor cyntaf gael ei sefydlu yn ardal gyfagos Copeland. Bydd Gweithgor Allerdale, dan gadeiryddiaeth annibynnol Jocelyn Manners-Armstrong, nawr yn dechrau trafod yn lleol a chasglur ffeithiau ynghylch y posibilrwydd o leoli Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF) yn Allerdale yn y dyfodol.

Dywedodd Prif Weithredwr Radioactive Waste Management (RWM), Karen Wheeler: Rydw i wrth fy modd bod y Gweithgor GDF wedi cael ei greu yn Allerdale ac y bydd yn dechrau ymgysylltu thrigolion lleol, busnesau a sefydliadau eraill ynghylch y posibilrwydd o gynnal GDF. Dymar ail Weithgor i gael ei greu, yn dilyn cyhoeddi gweithgor Copeland ym mis Tachwedd, ac mae rhagor ar y gweill ledled Lloegr dros y misoedd i ddod.

Mae creu Gweithgor yn gam cynnar iawn yn y broses, ond maen dangos bod cynnydd go iawn yn cael ei wneud tuag at ddod o hyd i safle addas a chymuned syn barod i gynnal un or prosiectau gwarchod yr amgylchedd mwyaf yn ein hanes gan waredu gwastraff uwch ei actifedd yn ddiogel mewn GDF.

Mae hwn yn fuddsoddiad enfawr mewn seilwaith ar gyfer economi leol, ac yn brosiect allweddol ar gyfer y DU. Bydd yn creu miloedd o swyddi yn ystod ei oes, gan gynnig cyfleoedd i ddatblygu gweithlu lleol sydd r sgiliau ar arbenigedd angenrheidiol. Bydd GDF hefyd yn denu mewnfuddsoddiad pellach ynghyd chyfleoedd ir gadwyn gyflenwi dros nifer o ddegawdau ac i mewn ir ganrif nesaf.

Bydd y gr?p yn canolbwyntio i gychwyn ar gasglu gwybodaeth am yr ardal leol a sylwadaur gymuned leol, ac ar ganfod Ardal Chwilio iw hystyried yn fanylach. Yn debyg ir sefyllfa yn Copeland, ni fydd Parc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd yn cael ei ystyried.

Nid oes gofyniad i ymrwymo i barodrwydd ardal i gynnal GDF yn y dyfodol. Bydd y Gweithgor hefyd yn nodi aelodau cychwynnol Partneriaeth Gymunedol a fydd yn parhau r trafodaethau cynnar hyn unwaith y bydd ardal chwilio wedi cael ei chanfod, gan rannu gwybodaeth a gweithio gyda RWM wrth i ymchwiliadau daearegol fynd rhagddynt.

Nid yw creu Gweithgor yn golygu y bydd GDF yn cael ei adeiladu mewn lleoliad penodol. Cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol, maen rhaid ir gymuned ddangos parodrwydd i gynnal GDF drwy brofi cefnogaeth y cyhoedd, ac maen rhaid dangos bod gan yr ardal leol y ddaeareg addas er mwyn gallu adeiladu GDF yn ddiogel.

Gwybodaeth am Gyfleusterau Gwaredu Daearegol:

  • Gwaredu Daearegol ywr dull a gydnabyddir yn rhyngwladol o waredu gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd ac maen cynnwys cyfres o gladdgelloedd or radd flaenaf hyd at 1,000 metr yn ddwfn mewn craig addas. Ar y cyd rhwystrau dynol, mae hyn yn gwarchod yr amgylchedd ac yn cadwr gwastraff yn ddiogel tra bor ymbelydredd yn dadfeilion naturiol i lefelau diogel.

  • Mae llywodraethau olynol y DU wedi cefnogi gwaredu daearegol dwfn, ac mae rhaglenni tebyg eisoes yn mynd rhagddynt yn Canada, y Ffindir, Ffrainc, Sweden ar Swistir.

  • Maer gwaith adeiladu cychwynnol yn debygol o bara tua 10 mlynedd a chyflogi hyd at 2,000 o bobl yn ystod y cyfnod prysuraf, gydar gwaith adeiladu tanddaearol yn parhau wrth ir cyfleuster ehangun raddol dros ei oes weithredol sef dros 100 mlynedd.

  • Mae disgwyl i GDF gefnogi miloedd o swyddi, yn y cyfleuster ei hun ac yn y gadwyn gyflenwi ehangach, yn ogystal chynnig cyfleoedd am gontractau amrywiol i fusnesau lleol.

  • Maer gwahoddiad i ddechrau trafod a chymryd rhan yn y rhaglen GDF yno o hyd i unrhyw sefydliad cymunedol, awd

Related Articles

Comments

  1. We don't have any comments for this article yet. Why not join in and start a discussion.

Write a Comment

Your name:
Your email:
Comments:

Post my comment

Recent Comments

Follow Us on Twitter

Share This


Enjoyed this? Why not share it with others if you've found it useful by using one of the tools below: