GovWire

Atodiad 5. Cosbau

Driver Vehicle Standards Agency

December 7
12:42 2022

Y Senedd syn pennu uchafswm y cosbau ar gyfer troseddau traffig ffyrdd. Mae difrifoldeb y drosedd yn cael ei adlewyrchu yn y gosb uchaf. Y llysoedd sydd i benderfynu pa ddedfryd iw gosod yn unol ag amgylchiadau.

Maer Tabl cosb yn nodi rhai or prif droseddau, ar cosbau cysylltiedig. Ceir amrywiaeth eang o droseddau eraill mwy penodol nad ydynt, er mwyn symlrwydd, yn cael eu dangos yma. Maer system pwyntiau cosb ac anghymhwyso yn cael ei ddisgrifio isod.

Pwyntiau cosb ac anghymhwyso

Bwriad y system pwyntiau cosb yw atal gyrwyr a beicwyr modur rhag ddilyn arferion moduro anniogel. Gall rhai troseddau difoduro, e.e. methu cywiro diffygion cerbyd, hefyd ddenu pwyntiau cosb.

Maen RHAID ir llys orchymyn pwyntiau iw hardystio ar y drwydded yn l y rhif sefydlog neur amrediad a osodir gan y Senedd. Mae cronni pwyntiau cosb yn rhybudd i yrwyr a beicwyr modur bod perygl anghymhwyso os bydd troseddau ychwanegol yn cael eu cyflawni.

Y gyfraith RTOA sects 44 & 45

Maen RHAID i yrrwr neu feiciwr modur syn cronni 12 neu fwy o bwyntiau cosb o fewn cyfnod o 3 blynedd gael ei anghymhwyso. Bydd hyn am gyfnod o 6 mis o leiaf, neu fwy os ywr gyrrwr neur beiciwr modur wediu hanghymhwyso yn y gorffennol.

Y gyfraith RTOA sect 35

Ar gyfer pob trosedd syn arwain at bwyntiau cosb, mae gan y llys b?er i orchymyn i ddeiliad y drwydded gael ei anghymhwyso yn l disgresiwn. Gall hyn fod ar gyfer unrhyw gyfnod y gwl y llys yn dda, ond fel arfer bydd rhwng wythnos ac ychydig o fisoedd.

Yn achos troseddau difrifol, fel gyrru peryglus ac yfed a gyrru, maen RHAID ir llys orchymyn anghymhwysiad. Y cyfnod lleiaf yw 12 mis, ond ar gyfer ad-droseddwyr neu lle mae lefel yr alcohol yn uchel, gall fod yn hirach. Er enghraifft, bydd ail drosedd gyrru ac yfed o fewn 10 mlynedd yn arwain at o leiaf 3 blynedd o anghymhwysiad.

Y gyfraith RTOA sect 34

Tabl cosbau

Trosedd Uchafswm cosb Pwyntiau cosb
*Achosi marwolaeth trwy yrru peryglus Carchar am oes / Dirwy ddiderfyn / Gorfodol - 5 mlynedd o isafswm) 3 i 11 (os na chaiff ei ddiarddel trwy eithriad)
*Gyrrun beryglus 2 flynedd o garchar / Dirwy ddiderfyn / Anghymwysiad gorfodol 3 i 11 (os nad yw wedii anghymhwyso yn l eithriad)
*Achosi marwolaeth trwy yrru peryglus o dan ddylanwad diod neu gyffuriau Carchar am oes / Dirwy ddiderfyn / Gorfodol - 5 mlynedd o isafswm) 3 i11 (os na chaiff ei ddiardell trwy eithriad)
Gyrru diofal ac anystyriol Dirwy ddiderfyn / Anghymhwysiad yn l disgresiwn 3 i 9
Gyrru heb fod yn ffit oherwydd yfed neu gyffuriau neu gydag alcohol dros ben: neu fethu darparu sbesimen iw ddadansoddi 6 mis o garchar / Dirwy ddiderfyn / Anghymhwysiad gorfodol 3 i 11 (os nad yw wedii anghymhwyson yn l eithriad)
Methu stopio ar l damwain neu fethu ag adrodd am ddamwain 6 mis o garchar / Dirwy ddiderfyn / Anghymhwysiad yn l disgresiwn 5 i 10
Gyrru tran anghymwys 6 mis o garchar (12 mis yn yr Alban) / Dirwy ddiderfyn / Anghymhwysiad yn l disgresiwn 6
Gyrru ar l gwrthod neu ddirymu trwydded ar sail feddygol 6 mis o garchar / Dirwy ddiderfyn / Anghymwysiad yn l disgresiwn 3 i 6
Gyrru heb yswiriant Dirwy ddiderfyn / Anghymhwysiad yn l disgresiwn 6 i 8
Defnyddio cerbyd mewn cyflwr peryglus LGV neu PCV diderfyn, cerbydau eraill 2,500 / Anghymwysiad gorfodol os ywr drosedd wedii chyflawni o fewn 3 blynedd i euogfarn flaenorol am drosedd debyg - isafswm o 6 mis. Yn l disgresiwn fel arall 3 ym mhob achos
Methiant i reoli cerbyd yn iawn neu edrych yn llawn ar y ffordd a thraffig och blaen 1,000 Dirwy (2,500 ar gyfer PCV neu gerbyd nwyddau) / Anghymhwysiad yn l disgresiwn 3
Defnyddio ffn symudol a ddelir llaw wrth yrru 1,000 Dirwy (2,500 ar gyfer PCV neu gerbyd nwyddau) / Anghymhwysiad yn l disgresiwn 6
Gyrru heblaw am yn unol thrwydded 1,000 dirwy / Anghymhwysiad yn l disgresiwn 3 i 6
Goryrru 1,000 dirwy (2,500 am droseddau traffordd) / Anghymhwysiad yn l disgresiwn 3 i 6, neu 3 (cosb benodedig)
Troseddau goleuadau traffig 1,000 dirwy / Anghymhwysiad yn l disgresiwn 3
Dim tystysgrif MOT 1,000 dirwy -
Troseddau gwregysau diogelwch 500 dirwy -
Beicio peryglus 2,500 dirwy -
Beicion ddiofal 1,000 dirwy -
Beicio ar balmant 500 dirwy -
Methu nodi gyrrwr cerbyd 1,000 dirwy / Anghymhwysiad yn l disgresiwn -

*Pan fydd llys yn anghymhwyso person ar ei gael yn euog am un or troseddau hyn, maen rhaid iddo orchymyn fail brawf estynedig. Mae gan y llysoedd ddisgresiwn hefyd i orchymyn ailbrofi am unrhyw drosedd arall syn arwain at bwyntiau cosb, fail brawf estynedig pan fo anghymhwysiad yn orfodol, a phrawf cyffredin lle nad oes rhaid anghymhwyso.

Ymhellach, mewn rhai achosion difrifol, maen RHAID ir llys (yn ogystal gosod cyfnod penodol o anghymhwyso) orchymyn ir troseddwr gael ei anghymwyso nes iddo basio prawf gyrru. Mewn achosion eraill mae gan y llys b?er disgresiwn i orchymyn anghymhwysiad or fath. Gall y prawf fod yn brawf hyd arferol neun brawf estynedig yn l natur y drosedd.

Y gyfraith RTOA sect 36

Gyrwyr Newydd

Mae rheolau arbennig fel y nodir isod yn berthnasol am gyfnod o ddwy flynedd o ddyddiad pasio eu prawf gyrru cyntaf, i yrwyr a beicwyr modur o

  • y DU, yr UE/AEE, Ynys Manaw, Ynysoedd y Sianel neu Gibraltar a basiodd eu prawf gyrru cyntaf yn unrhyw rai or gwledydd hynny

  • gwledydd tramor eraill syn gorfod pasio prawf gyrru yn y DU i ennill trwydded y DU, ac os felly caiff prawf gyrrur DU

Related Articles

Comments

  1. We don't have any comments for this article yet. Why not join in and start a discussion.

Write a Comment

Your name:
Your email:
Comments:

Post my comment

Recent Comments

Follow Us on Twitter

Share This


Enjoyed this? Why not share it with others if you've found it useful by using one of the tools below: