GovWire

Press release: DBS a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn cyflawni sioeau teithiol ar y cyd

Disclosure Barring Service

April 13
15:00 2023

Maer Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn gweithio ar y cyd Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) a Chynghorau Gwirfoddol Sirol i ddarparu cyfres o sioeau teithiol newydd ar y cyd.

Bydd y sioeau teithiol, a fydd yn cael eu treialu ar draws gogledd Cymru, gyda chefnogaeth Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru, yn helpu i sicrhau bod arferion recriwtio goraun cael eu dilyn gan y sector gwirfoddol.

Byddant yn ymdrin throsolwg o arfer gorau mewn polisau diogelu, cynhyrchion a gwasanaethau DBS megis meini prawf cymhwysedd ar gyfer gwahanol lefelau o dystysgrifau DBS a gwneud cyfeiriadau gwahardd at DBS, gan gynnwys lle mae dyletswydd gyfreithiol i gyfeirio a hefyd trosolwg o Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol Cymru a sut maen nhwn effeithio ar sefydliadau gwirfoddol.

Cafodd y set gyntaf o sioeau teithiol eu treialu yng Nghonwy yn ddiweddar gyda Chymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy (CVSC) a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnal y digwyddiad. Daeth dros 45 o sefydliadau gwirfoddol ir sioe deithiol lle cawsant ganllawiau ar safonau hyfforddiant diogelu newydd, polisau diogelu arferion gorau a chyngor a gwybodaeth am sut y gall Gwasanaeth Allgymorth Rhanbarthol DBS a WCVA gynnig rhagor o gymorth.

Bydd Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol yn darparu fframwaith er mwyn cysondeb ac yn helpu i godi ansawdd yr hyfforddiant diogelu ar gyfer pob ymarferydd, ar gobaith yw y bydd yn cefnogi canlyniadau gwell mewn perthynas diogelu plant ac oedolion yng Nghymru

Dywedodd Jan Smith, Dirprwy Brif Swyddog CVSC: Roedd CVSC yn falch iawn o gynnal sioe deithiol beilot gogledd Cymru yma yng Nghonwy, gan roir cyfle i grwpiau cymunedol gael eu diweddarun uniongyrchol am y Safonau Hyfforddiant Diogelu newydd, Gwasanaeth Allgymorth y DBS a diogelu arfer da.

Mae diogelu yn fusnes i bawb a thrwy ein hymdrechion gweithio ar y cyd, gallwn fod yn sicr bod cefnogaeth eang yn hygyrch ac ar gael.

Dywedodd Helen Chandler, Pennaeth Partneriaethau DBS: Rydym yn falch iawn o gael gweithio gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol a CVCs Cymru ar draws gogledd Cymru i ddarparu mynediad ir sector gwirfoddol gwybodaeth ddiogelu hanfodol iw helpu i amddiffyn grwpiau syn agored i niwed, gan gynnwys plant.

Rydym wedi datblygu cyngor, gwybodaeth ac arweiniad wediu teilwra ar sut i wneud recriwtio yn fwy diogel.Mae hyn yn cynnwys egluro pa wiriadau DBS y gallant eu cael a lle gallair gwiriadau hynny fod yn addas o ran eu prosesau recriwtio ehangach. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am sut a phryd i wneud atgyfeiriad ir DBS lle mae rhywun wedi niweidio neu achosi risg o niwed i unigolion bregus.

Mae cwmni DBS wedi ymrwymo i weithio gyda sefydliadau drwy ei Wasanaeth Allgymorth Rhanbarthol a gall unrhyw sefydliad o unrhyw faint gael mynediad i gefnogaeth am ddim. Dysgwch fwy trwy gyrchu canllawiau allgymorth rhanbarthol y DBS yma: www.gov.uk/guidance/the-dbs-regional-outreach-service

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion

Am fwy o wybodaeth am y datganiad hwn ir wasg, e-bostiwch dbsmedia@dbs.gov.uk neu ffoniwch 07867287970.

Maer Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn helpu cyflogwyr i wneud penderfyniadau recriwtio mwy diogel bob blwyddyn trwy brosesu a chyhoeddi gwiriadau DBS ar gyfer Lloegr, Cymru, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Maer DBS hefyd yn cynnal y Rhestrau Gwahardd Oedolion a Phlant ac yn gwneud penderfyniadau ystyriol ynghylch a ddylai unigolyn gael ei gynnwys ar un or rhestrau hyn neur ddwy ai wahardd rhag cymryd rhan mewn g

Related Articles

Comments

  1. We don't have any comments for this article yet. Why not join in and start a discussion.

Write a Comment

Your name:
Your email:
Comments:

Post my comment

Recent Comments

Follow Us on Twitter

Share This


Enjoyed this? Why not share it with others if you've found it useful by using one of the tools below: