GovWire

Atgyfeirio cymhorthdal arfaethedig Morglawdd Caergybi i Stena Line Ports Ltd gan Lywodraeth Cymru

Competition Markets Authority

September 14
15:06 2023

Amserlen weinyddol

Dyddiad Cam Gweithredu
9 Awst 2023 Cyhoeddi adroddiad SAU
12 Gorffennaf 2023 Dyddiad cau i dderbyn ceisiadau trydydd parti (ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar l 5pm ar y dyddiad hwn yn cael eu hystyried)
28 Mehefin 2023 Dechraur cyfnod adrodd

Adroddiad Terfynol

9 Awst 2023: Maer SAU wedi cyhoeddi ei adroddiad syn darparu cyngor i Lywodraeth Cymru yngl?n r cymhorthdal arfaethedig i Stena Line Ports Ltd i adnewyddu morglawdd Porthladd Caergybi. Maer adroddiad yn nodi ein gwerthusiad o Asesiad Cydymffurfio Llywodraeth Cymru ir cymhorthdal arfaethedig gydar gofynion wedi eu nodi yn Neddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022.

Cais gan Lywodraeth Cymru

27 Mehefin 2023: Maer SAU wedi derbyn cais gan Lywodraeth Cymru am adroddiad ynghylch cymhorthdal arfaethedig i Stena Line Ports Ltd. ar gyfer adnewyddur morglawdd ym Mhorthladd Caergybi. Maer cais hwn yn ymwneud Chymhorthdal o Ddiddordeb Arbennig.

Bydd yr SAU yn paratoi adroddiad, a fydd yn darparu gwerthusiad o asesiad Llywodraeth Cymru i weld a ywr cymhorthdal yn cydymffurfio r gofynion rheoli cymorthdaliadau (Asesiad o Gydymffurfiaeth). Bydd yr SAU yn cwblhau ei hadroddiad o fewn 30 diwrnod gwaith.

Gwybodaeth am y cynllun a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyfrannu arian cyhoeddus i Stena Line Ports Ltd (Stena) iw cefnogi i dalu costau adnewyddur morglawdd Fictoraidd presennol 2.4km ym Mhorthladd Caergybi (y Porthladd). Adeiladwyd y morglawdd rhwng 1845 a 1873 ac mae wedi bod o dan berchnogaeth Stena ers 1991.

Disgwylir ir gwaith adnewyddu gostio mwy na 100 miliwn a bydd cymorth cyhoeddus yn cynnwys cyfanswm cymhorthdal o tua 28 miliwn.

Deallir, os na wneir gwaith adnewyddu, byddai hyn yn y pen draw yn arwain at gollir morglawdd, gan leihau gallur porthladd i ddarparu gwasanaethau fferi dibynadwy a chynyddunifer y gwasanaethau lle ceir oedi ac syn cael eu canslo oherwydd tywydd gwael. Gallai hyn arwain at gaur Porthladd a fyddain cael effeithiau cymdeithasol ac economaidd negyddol sylweddol.

Y cynnig yw darparur cymhorthdal dros oes y prosiect adnewyddu ei hun, y disgwylir iddo beidio bod yn fwy na 2 flynedd. Bydd y grant yn cael ei dalu i Stena mewn rhandaliadau syn adlewyrchur cynnydd a wneir.

Gwybodaeth i drydydd parton

Os hoffech wneud sylw ar faterion syn berthnasol i werthusiad yr SAU or Asesiad o Gydymffurfiaeth ynghylch y cymhorthdal arfaethedig gan Lywodraeth Cymru i Stena Line Ports Ltd., anfonwch eich sylwadau cyn 5pm ar y dyddiad a nodir yn yr amserlen uchod. I gael arweiniad ar sylwadau syn berthnasol ir Asesiad o Gydymffurfiaeth, gweler yr adran ar y cyfnod adrodd a thryloywder yng Ngweithrediad swyddogaethau rheoli cymorthdaliadaur Uned Cyngor ar Gymorthdaliadau.

Anfonwch eich cyflwyniadau atom yn sau-holyheadbreakwater@cma.gov.uk, gan anfon copi at yr awdurdod cyhoeddus: SubsidyControlUnit@gov.wales Darparwch hefyd gyfeiriad cyswllt ac eglurwch ym mha rinwedd rydych yn gwneud y cyflwyniad (er enghraifft, fel unigolyn neu gynrychiolydd busnes neu sefydliad).

Nodiadau i drydydd parton syn dymuno gwneud cyflwyniad

Dim ond os gellir ei rannu Llywodraeth Cymru y bydd yr SAU yn ystyried eich cyflwyniad. Bydd yr SAU yn anfon copi och cyflwyniad i Lywodraeth Cymru ynghyd i hadroddiad. Mae hyn er mwyn galluogir awdurdod cyhoeddus i ystyried y cyflwyniad yn ei benderfyniad ynghylch a ddylid caniatu neu addasur cynllun neu ei asesiad. Gofynnwn felly i chi roi caniatd penodol ich cyflwyniad llawn, heb ei olygu, gael ei rannu. Rydym hefyd yn eich annog i rannuch cyflwyniad yn uniongyrchol Llywodraeth Cymru gan ddefnyddior cyfeiriad e-bost a ddarperir uchod.

Gallair SAU ddefnyddior wybodaeth a roddwch yn ei hadroddiad cyhoeddedig. Felly, dylech nodi yn eich cyflwyniad a yw unrhyw rannau penodol ohono yn fasnachol gyfrinachol. Os ywr SAU yn dymuno cyfeirio yn ei adroddiad cyhoeddedig at ddeunydd a nodir yn gyfrinachol, bydd yn cysylltu chi ymlaen llaw.

Am fanylion pellach ar gyfrinachedd cyflwyniadau trydydd parti, gweler nodi gwybodaeth gyfrinachol yng Ngweithrediad swyddogaethau rheoli cymorthdaliadaur Uned Cyngor ar Gymorthdaliadau.

CysylltiadauTm prosiect SAU: sau-holyheadbreakwater@cma.gov.ukTm y wasg CMA: 020 3738 6460 neu press@cma.gov.uk

Published 14 September 2023

Recent Comments

Follow Us on Twitter

Share This


Enjoyed this? Why not share it with others if you've found it useful by using one of the tools below: