GovWire

Rheolau, technegau a chyngor cyffredinol ar gyfer gyrwyr a beicwyr (103 i 158)

Department For Transport

September 16
23:01 2023

Dylair adran hon gael ei darllen gan holl yrwyr, beicwyr modur, beicwyr a marchogion. Nid ywr rheolau yn Rheolaur Ffordd Fawr yn rhoir hawl tramwy i chi mewn unrhyw amgylchiadau, ond maent yn eich cynghori pryd y dylech ildio i eraill. Ildiwch bob amser os gall helpu i osgoi digwyddiad.

Signalau (rheol 103 i 106)

Rheol 103

Mae rhoi signalau yn rhybuddio ac yn hysbysu defnyddwyr eraill y ffordd, gan gynnwys cerddwyr (gweler Rhoi signalau i ddefnyddwyr ffyrdd eraill), or camau yr ydych yn bwriadu eu cymryd. Dylech bob amser

  • roi signalau clir mewn digon o amser, ar l gwirio nad ywn gamarweiniol rhoi signal ar yr adeg honno

  • rhoi signalau i gynghori defnyddwyr eraill y ffordd cyn newid llwybr neu gyfeiriad, stopio neu symud i ffwrdd

  • canslor signalau ar l eu defnyddio

  • gwneud yn si?r na fydd eich signalau yn drysu pobl eraill. Os ydych, er enghraifft, am stopio ar l ffordd ymyl, peidiwch rhoi signal nes eich bod yn pasior ffordd. Os ydych yn rhoi signal yn gynharach efallai y bydd yn rhoir argraff eich bod yn bwriadu troi ir ffordd. Bydd eich goleuadau brc yn rhybuddio traffig y tu l i chi eich bod yn arafu

  • defnyddiwch arwydd braich i bwysleisio neu atgyfnerthu eich signal os oes angen. Cofiwch nad yw rhoi signal yn rhoi blaenoriaeth i chi.

Rheol 104

Dylech hefyd

  • wylio am signalau a roddir gan ddefnyddwyr eraill y ffordd a mynd yn eich blaen dim ond pan fyddwch yn fodlon ei bod yn ddiogel

  • bod yn ymwybodol efallai na fydd dangosydd ar gerbyd arall wedi cael ei ganslo.

Rheol 105

Maen RHAID i chi ufuddhau i signalau a roddir gan swyddogion heddlu, swyddogion traffig, wardeiniaid traffig (gweler Signalau gan bersonau awdurdodedig ac) arwyddion a ddefnyddir gan hebryngwyr croesfannau ysgol.

Deddfau RTRA sect 28, RTA 1988 sect 35, TMA sect 6 a FTWO art 3

Rheol 106

Gweithdrefnau stopior heddlu. Os bydd yr heddlu am stopio eich cerbyd, byddant, lle bon bosibl, yn denu eich sylw drwy

  • fflachio goleuadau glas, priflampau neu ddefnyddio eu seiren neu gorn, fel arfer or tu l

  • eich cyfeirio i dynnu at yr ochr drwy bwyntio a/neu ddefnyddior dangosydd chwith.

Maen RHAID i chi wedyn dynnu ir ochr a stopio cyn gynted ag y bon ddiogel i wneud hynny. Yna diffoddwch eich injan.

Y ddeddf RTA 1988 sect 163

Gweithdrefnau stopio eraill (rheol 107 i 112)

Rheol 107

Mae gan swyddogion yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau y p?er i atal cerbydau ar yr holl ffyrdd, gan gynnwys traffyrdd a chefnffyrdd. Byddant yn denu eich sylw drwy fflachio goleuadau ambr

  • naill ai or tu blaen yn gofyn i chi eu dilyn i le diogel i stopio

  • neu or tu l yn eich cyfeirio i dynnu at yr ochr drwy bwyntio a/neu ddefnyddior dangosydd chwith.

Maen drosedd peidio chydymffurfio u cyfarwyddiadau. Maen RHAID i chi ufuddhau i unrhyw signalau a roddir (gweler Signalau gan bersonau awdurdodedig).

Deddfau RTA 1988 sect 67, a PRA sect 41 a sched 5(8)

Rheol 108

Mae gan Swyddogion traffig bwerau i atal cerbydau ar y rhan fwyaf o draffyrdd a rhai ffyrdd dosbarth A, yng Nghymru a Lloegr. Os bydd swyddogion traffig mewn iwnifform am atal eich cerbyd ar sail diogelwch (e.e. llwyth anniogel), byddant, lle bon bosibl, yn denu eich sylw drwy

  • fflachior goleuadau ambr, or tu l fel arfer

  • eich cyfeirio i dynnu at yr ochr drwy bwyntio a/neu ddefnyddior dangosydd chwith.

Maen RHAID i chi wedyn dynnu ir ochr a stopio cyn gynted ag y bon ddiogel i wneud hynny. Yna diffoddwch eich injan. Maen drosedd peidio chydymffurfio u cyfarwyddiadau (gweler Signalau gan bersonau awdurdodedig).

Y ddeddf RTA 1988 sects 35 a 163 fel yu diwygiwyd gan TMA sect 6

Rheol 109

Signalau goleuadau traffig ac arwyddion traffig. Maen RHAID i chi ufuddhau i bob signal goleuadau traffig (gweler Signalau goleuadau syn rheoli traffig) ac arwyddion traffig syn rhoi gorchmynion, gan gynnwys signalau ac arwyddion dros dro (gweler Arwyddion traffig). Gwnewch yn si?r eich bod yn gwybod, yn deall ac yn gweithredu ar yr holl arwyddion traffig a gwybodaeth a marciau ffyrdd eraill (gweler Arwyddion traffig, Marciau ffyrdd a Marciau cerbydau).

Deddfau RTA 1988 sect 36 a

Related Articles

Comments

  1. We don't have any comments for this article yet. Why not join in and start a discussion.

Write a Comment

Your name:
Your email:
Comments:

Post my comment

Recent Comments

Follow Us on Twitter

Share This


Enjoyed this? Why not share it with others if you've found it useful by using one of the tools below: